Rheolwyr eiddo y gallwch ymddiried.

“I would recommend Homestead as one of the best property management companies in the UK.  Staff are totally committed to our property and they have brought a pragmatic, thoroughly professional and responsive service beyond what we had expected.”

Dr Andrew C Tempest, Director, Bronte House, Thurland Castle

Ydych chi’n chwilio am wasanaeth rheoli eiddo gwell ar gyfer eich bloc neu ddatblygiad? Gyda dros 40 mlynedd o brofiad rheoli eiddo preswyl, gallai Homestead Cymru fod yn bartner perffaith i chi.

Rydym yn cydnabod bod gan gleientiaid a thenantiaid yr un amcan: eiddo a reolir yn effeithlon. Felly ein nod yw darparu gwasanaeth mwy personol, mwy proffesiynol i bob cleientgyda’r bwriad o fodloni a rhagori ar eich disgwyliadau.

O gyfadeiladau fflatiau newydd moethus ac adeiladau rhestredig Gradd II hyd at lety wedi’i ailwampio, rydym yn arbenigo mewn rheoli blociau preswyl, gan helpu cwmnïau a pherchnogion rheoli eiddo yng Nghymru i redeg eu busnesau yn ddidrafferth.

Mae cleientiaid yn dewis Homestead Cymru gan ein bod yn cynnig contractau hyblyg wedi’u teilwra i’ch anghenion rheoli eiddo preswyl, gyda rheolwr cyfrifon pwrpasol i ofalu amdanoch chi, a systemau prisio, taliadau gwasanaeth a chydymffurfiaeth gadarn. Rydym hefyd wedi sefydlu perthnasoedd cryf gyda chontractwyr lleol parchus.

Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth cwsmer o ansawdd uchel sy’n ychwanegol at safonau’r diwydiant. Gyda dull rhagweithiol, addasadwy a chydweithredol, rydyn ni’n eich rhoi chi a’ch diddordebau eiddo preswyl yn gyntaf, gan wneud y mwyaf o’ch buddsoddiadau wrth barhau I geisio cadw’ch costau’n isel.

 

Rheoli blociau preswyl

O drefnu ymweliadau i wirio eich eiddo hyd at fynychu cyfarfodydd cyfarwyddwyr a thrafod ymholiadau preswylwyr, gall Homestead Cymru reoli eich datblygiad yn effeithlon

 

Rheoli atgyweiriadau a chynnal a chadw

O baratoi cynlluniau cynnal a chadw arferol hyd at ddelio â gwaith mawr, mae Homestead Cymru yn trefnu ac yn monitro gwasanaethau, prosiectau adeiladu ac atgyweirio a chynnal a chadw bob dydd ar gyfer eich eiddo preswyl.

 

Cefnogaeth y Bwrdd

Gallwn roi’r holl wybodaeth weithdrefnol sydd ei hangen arnoch i weithredu’ch cwmni rheoli preswyl yn llyfn. Mae hynny’n cynnwys cynghori’ch bwrdd ar faterion cwmni a darparu adroddiadau ariannol.

Gwasanaethau gweinyddol ariannol

Rydym yn gofalu am yr holl drefniadau cyfrifyddu gofynnol ar eich cyfer, gan gynnwys paratoi cyllidebau blynyddol, bilio a chasglu taliadau gwasanaeth a monitro incwm, gwariant a llif arian.

Cydymffurfiaeth a chyngor prydles

Gall Homestead Cymru helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau cydymffurfio preswyl gyda chefnogaeth ac arweiniad priodol ar ddeddfwriaeth landlordiaid a thenantiaid. Rydym hefyd yn sicrhau bod tenantiaid yn cadw at delerau’r brydles a’r polisïau y cytunwyd arnynt gan eich bwrdd

Datblygwyr adeiladau

Rydym yn gweithio’n agos gyda datblygwyr adeiladau fel asiantau rheoli dros dro wrth adeiladu prosiectau preswyl, gan eu cefnogi gyda chytundebau rheoli, archwilio safleoedd, cynnal a chadw, gweinyddu taliadau gwasanaeth a chefnogaeth i berchnogion newydd.

Pam dewis Homestead Cymru?

Ffioedd rheoli wedi’u gosod yn ôl eich

datblygiad eiddo.

Aelodau o Gymdeithas Asiantau

Rheoli Preswyl (ARMA).

Aelodau o’r Sefydliad Rheoli

Eiddo Preswyl.

Achrediadau staff gan RICS a’r Sefydliad

Rheoli Eiddo Preswyl.

Diwylliant addasadwy sy’n canolbwyntio ar y

cwsmer wedi’i danategu gan hyfforddiant staff parhaus.

Cydymffurfio â Siarter Defnyddwyr ARMA ar gyfer

y safonau uchaf o wasanaeth i gwsmeriaid.

Cydymffurfio â chanllawiau Sefydliad Brenhinol y

Syrfewyr Siartredig (RICS).

Aelodau’r Cynllun Gwneud Iawn am Eiddo

(http://www.theprs.co.uk]

 

Os ydych chi’n chwilio am ddull newydd o reoli’ch eiddo preswyl, ffoniwch Homestead Cymru nawr ar 01253 640 040

HOMESTEAD CONSULTANCY SERVICES LIMITED

Company number 01302831

Directors

J D Bentham FIRPM, Assoc RICS

H T Heywood BA (Hons) ACIS

S Jagger AIRPM

HOMESTEAD CONSULTANCY SERVICES (CYMRU) LIMITED

Company number 11023357

Directors

J D Bentham FIRPM, Assoc RICS

S Jagger AIRPM

HOMESTEAD CONSULTANCY SERVICES LIMITED

Company number 01302831

Directors

J D Bentham FIRPM, Assoc RICS

H T Heywood BA (Hons) ACIS

S Jagger

 

HOMESTEAD CONSULTANCY SERVICES (CYMRU) LIMITED

Company number 11023357

Directors

J D Bentham FIRPM, Assoc RICS

S Jagger

Homestead (Midlands) Ltd

Company No: 11952770

Directors: J.D.Bentham
Sandra Jagger

Regional Manager: Matt Watters

Homestead Consultancy Services Ltd.

29 St. Annes Road West,

Lytham St. Annes, FY8 1SB

T: 01253 640040

E: [email protected]

 

HOMESTEAD (MIDLANDS) LIMITED

Company No: 11952770

Directors: J.D.Bentham
Sandra Jagger AIRPM

Regional Manager: Matt Watters